SL (5)112 - Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017

Cefndir a Phwrpas

Mae'r Rheoliadau hyn yn parhau i weithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC ar farchnata deunyddiau lluosogi planhigion ffrwythau a phlanhigion ffrwythau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu ffrwythau.

Maent hefyd yn gweithredu:

-     Cyfarwyddeb Gweithredu'r Comisiwn 2014/96/UE ar y gofynion ar gyfer labelu, selio a phecynnu deunyddiau lluosogi planhigion ffrwythau a phlanhigion ffrwythau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu ffrwythau, sy'n dod o fewn cwmpas Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC;

-     Cyfarwyddeb Gweithredu'r Comisiwn 2014/97/UE yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC o ran cofrestru cyflenwyr ac amrywogaethau a'r rhestr gyffredin o amrywogaethau;

-     Cyfarwyddeb Gweithredu'r Comisiwn 2014/98/UE yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC o ran gofynion penodol ar gyfer genws a rhywogaethau planhigion ffrwythau y cyfeirir atynt yn Atodiad I hynny, gofynion penodol sydd i'w bodloni gan gyflenwyr a rheolau manwl ynghylch arolygiadau swyddogol.

Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Ffrwythau 2010.

Gweithdrefn

Negyddol

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Trosi cyfraith y DU yn hwyr a thorri'r rheol 21 diwrnod

Y dyddiad trosi ar gyfer gwahanol Gyfarwyddebau Gweithredu'r UE oedd 1 Ionawr 2017. Mae'r Pwyllgor yn nodi esboniad defnyddiol Llywodraeth Cymru ar gyfer y trosi hwyr a'r ymrwymiad a wnaed i'r Comisiwn Ewropeaidd i ddod â'r Rheoliadau i rym erbyn y terfyn amser estynedig sef 19 Mehefin 2017.

O gofio dibyniaeth Llywodraeth Cymru ar Lywodraeth y DU wrth baratoi'r  Rheoliadau hyn, mae'n ymddangos i'r Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru bob amser yn debygol o dorri naill ai'r rheol 21 diwrnod neu y dyddiad cau estynedig sef 19 Mehefin 2017. Yn yr achos hwn, dewisodd Llywodraeth Cymru i dorri'r rheol 21 diwrnod yn hytrach na'r dyddiad cau estynedig; daw'r Rheoliadau hyn i rym dim ond 3 diwrnod ar ôl cael eu gosod gerbron y Cynulliad.

Mae'r rheol 21 diwrnod wedi ei chynllunio i sicrhau bod pobl yn cael amser i drefnu eu materion wrth baratoi ar gyfer cyfraith newydd sy'n dod i rym. Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru gadarnhau: (a) pa gamau rhagweithiol a gymerodd i roi gwybod i'r holl randdeiliaid priodol y byddai'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 19 Mehefin 2017, a (b) pryd gafodd y camau rhagweithiol hynny eu cymryd.

Felly, mae'r Pwyllgor yn adrodd yr offeryn hwn o dan:

-     Reol Sefydlog 21.3(ii), sef ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad;

-     Rheol Sefydlog 21.3(iv), sef ei fod yn rhoi deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar waith yn amhriodol.

Goblygiadau sy'n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd

Gwnaeth Gweinidogion Cymru y Rheoliadau hyn gan ddefnyddio pwerau a roddwyd iddynt o dan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Ar hyn o bryd, nid yw'n glir sut y bydd pwerau gweithredol ym maes iechyd planhigion a hadau yn arferadwy pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Yn gysylltiedig â hyn, nid yw'n glir sut y bydd cymhwysedd y Cynulliad ym maes iechyd planhigion a hadau yn cael ei effeithio. Er enghraifft, nid yw'n glir a fydd pwerau i reoleiddio iechyd planhigion a hadau yn ddarostyngedig i reolau fframwaith cyffredin y DU, na sut felly.

Hefyd, gall hyn fod yn un enghraifft o gyfraith yr UE sydd angen ei chywiro cyn y gall fod yn ymarferol mewn cyd-destun y DU yn unig. Er enghraifft, mae Cyfarwyddeb yr UE 2014/96 yn ei gwneud yn ofynnol i rai labeli gynnwys y geiriau "EU rules and standards". Nid yw'n glir a fyddai cyfeiriad at "EU rules and standards" yn ymarferol y tu allan i'r UE; bydd hyn yn dibynnu ar y berthynas sydd gan y DU â'r UE ar ôl gadael yr UE.

Ymateb y Llywodraeth

Rwy’n derbyn y pwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor ac yn cydnabod y methwyd y terfyn amser ar gyfer trosi Cyfarwyddebau’r UE ac y torrwyd y rheol 21 diwrnod, oherwydd y rhesymau a nodir yn y Memorandwm Esboniadol.

 

Mae Rheoliadau 2017 yn ffurfioli’r cynllun gwirfoddol blaenorol a weinyddwyd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) a’r prif sefydliad sy’n cynrychioli’r diwydiant, sef y Gymdeithas Stociau Niwclear (NSA). Mae’r ddeddfwriaeth hon yn effeithio’n uniongyrchol ar un cwmni yng Nghymru sy’n aelod o’r NSA ac, mewn cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2016, rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r NSA ar y cynnydd a wnaed o ran gweithredu Rheoliadau’r UE. Yn y cyfarfod roedd pob parti yn ymwybodol y byddai’r Rheoliadau yn methu’r dyddiad trosi, sef 1 Ionawr 2017, a’i fod yn annhebygol y daw’r Rheoliadau i rym tan fis Mai 2017 fan gynharaf.

 

Ym mis Ionawr 2017 cyhoeddwyd canllawiau ar y cynllun newydd ar gyfer tyfwyr masnachol. Cynhelir arolygiadau ar gyfer y cynllun ardystio yn flynyddol o fis Mehefin a bydd y diwydiant wedi bod yn paratoi ar gyfer yr arolygiadau hyn yn unol â’r gofynion newydd. 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

22 Mehefin 2017